Choose My Police and Crime Commissioner

May 2024 PCC and PFCC Elections

Police and Crime Commissioner (PCC) and Police, Fire, and Crime Commissioner (PFCC) elections are taking place on 2 May.

From 10 April, you will be able to find out information on the candidates standing for election in your Police Force Area on this site, and you will also be able to download a PDF booklet of the candidate details.

If you need a physical copy of the booklet delivered to you, or a version in large print, braille or audio, you can request one from 10 April either by returning to this site or calling 0300 1311323.

About your vote

You need to be registered to be able to vote.

If you are not registered visit www.gov.uk/register-to-vote or contact your local council.

If you are registered, and eligible to vote you can either vote in person at a polling station, by post, or by proxy (allowing someone you trust to vote on your behalf).

PCCs and PFCCs are elected using the first past the post voting system, where the candidate with the most votes, wins. Voters will vote by choosing a single candidate on the ballot paper. This is the same system as UK Parliamentary elections.

For more information about your vote visit https://www.electoralcommission.org.uk/voting-and-elections.

Etholiadau CHTh a CHTTh Mai 2024

Mae etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) a Chomisiynydd yr Heddlu, Tân a Throseddu (CHTTh) yn cael eu cynnal ar 2 Mai.

O 10 Ebrill, byddwch yn gallu dod o hyd i wybodaeth am yr ymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad yn eich Ardal Heddlu ar y wefan hon, a byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho llyfryn PDF o fanylion yr ymgeisydd.

Os oes angen copi caled o’r llyfryn arnoch, neu fersiwn mewn print bras, braille neu dâp sain, gallwch ofyn am gopi o 10 Ebrill naill ai drwy ddychwelyd i’r wefan hon neu ffonio 0300 1311323.

Ynglŷn â'ch pleidlais

Mae angen i chi fod wedi cofrestru i allu pleidleisio.

Os nad ydych wedi cofrestru ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio neu cysylltwch â'ch cyngor lleol.

Os ydych wedi cofrestru, ac yn gymwys i bleidleisio gallwch naill ai bleidleisio'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, drwy'r post, neu drwy ddirprwy (gan ganiatáu i rywun rydych yn ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan).

Mae CHTh a CHTTh yn cael eu hethol gan ddefnyddio’r system pleidleisio cyntaf i’r felin, lle mai’r ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n ennill. Bydd pleidleiswyr yn pleidleisio drwy ddewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Dyma'r un system ag etholiadau Senedd y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am eich pleidlais ewch i https://www.electoralcommission.org.uk/cy/pleidleisio-ac-etholiadau