Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.
Rwyf wrth fy modd i fod yn ymgeisydd y Blaid Lafur a Chydweithredol ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys. Rwyf wedi gwasanaethu yng Ngwasanaeth Llysgenhadol Ei Mawrhydi, gan weithio gyda systemau cyfiawnder a’r heddlu ar draws y byd, ac ar faterion hawliau dynol a chydraddoldeb. Rwy’n byw gyda fy nheulu yng Ngorllewin Cymru ac rwy’n ymfalchïo yn y ffaith fod fy hen dad-cu yn aelod o Gwnstabliaeth Sir Benfro.
Mae’r Torïaid wedi creu argyfwng mewn plismona a throseddu. Maent wedi treulio degawd yn gwneud toriadau i’r heddlu, gan dorri biliynau o bunnoedd allan o gyllidebau’r heddlu.
Yma yng Nghymru, mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi camu i’r adwy i gefnogi cymunedau mwy diogel, gan fuddsoddi mewn 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol ar ein strydoedd. Bydd Llywodraeth Llafur Cymru yn cynyddu nifer y swyddogion i hybu plismona cymunedol.
Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu Llafur sydd wedi arwain ymagwedd iechyd y cyhoedd tuag at fynd i’r afael â throseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn menywod trwy weithio gydag awdurdodau lleol, y sector gwirfoddol ac asiantaethau eraill i wneud cymunedau yn fwy diogel.
Rwyf yn ymgyrchu ar draws Dyfed-Powys i gadw’r Torïaid i ffwrdd o reolaeth uniongyrchol dros luoedd yr heddlu. Mae fy ethol i yn golygu diogelu ein heddlu lleol a gwneud ein cymunedau yn fwy diogel.
FY ADDEWIDION
Byddaf yn gweithio’n galed i sicrhau ein bod yn cadw ein cyfraddau troseddu yn isel. Mae angen i ni fod yn ddiogel – a theimlo’n ddiogel.
Bydd fy Nghynllun blynyddol yn cynorthwyo heddlu Dyfed-Powys i gyflwyno gwasanaeth rhagorol i bawb.
Byddaf yn llais i chi, i wneud i waith yr heddlu ymateb i’ch anghenion. Byddaf bob amser yn sefyll drosoch chi.
Dewch o hyd i ganlyniadau eich ardal chi drwy chwilio isod: