Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.
Dylai pobl allu byw eu bywydau heb ofni gwahaniaethu. Fodd bynnag, mae troseddau casineb yn cynyddu, ac mae gormod o lawer o bobl sydd ddim yn teimlo’n ddiogel erbyn hyn.
Mae pobl yn erfyn am newid ac maent yn daer am weld plismona mwy gweladwy, yn enwedig mewn mannau sy’n aml yn teimlo’u bod wedi’u hanghofio.
Byddaf yn brwydro i gadw ein cymunedau yn ddiogel trwy gyflwyno mesurau sydd wedi ennill eu plwyf a chydweithio â chymunedau i’n helpu ni i fynd i’r afael â materion pwysig megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau aildroseddu.
Os caf fy ethol ar 6 Mai, dyma fydd fy mhrif flaenoriaethau:
Cyhoeddwyd a hyrwyddir gan Claire Halliwell ar ran Lisa Wilkins (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru), 3 Preswylfa, Llanberis, Gwynedd LL55 4LF
Manylion cyswllt: www.welshlibdems.wales
Dewch o hyd i ganlyniadau eich ardal chi drwy chwilio isod: