Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.
Fel eich Comisiynydd presennol, fy mlaenoriaeth yw sicrhau diogelwch holl gymunedau Dyfed Powys, a bydd hynny bob amser yn bwysicach i mi na gwleidyddiaeth bleidiol. Rwy’n eithriadol o falch o’r addewidion dwi wedi’u cyflawni ers cychwyn yn y swydd yn 2016, ond mae cymaint mwy i’w wneud.
Os caf fy ailethol byddaf yn parhau i wrando ac ymgysylltu â holl gymunedau Dyfed Powys er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth plismona yn diwallu anghenion lleol. Ers 2016, rwyf wedi llwyddo i gynyddu adnoddau ochr yn ochr â sicrhau lefelau treth gyngor isaf Cymru.
Eich diogelwch chi yw fy mhrif flaenoriaeth. Rwyf am sicrhau bod ardal Heddlu Dyfed Powys yn parhau i fod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel yng Nghymru a Lloegr. Ers cael fy ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu yn 2016, rwyf wedi:
Dewch o hyd i ganlyniadau eich ardal chi drwy chwilio isod: