Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Ynglŷn â chomisiynwyr heddlu a throseddu a chomisiynwyr heddlu, tân a throseddu

Mae comisiynwyr heddlu a throseddu (CHTh) yn sicrhau bod anghenion plismona eich cymuned yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl ac yn goruchwylio sut yr eir i’r afael â throseddu yn eich ardal.

CHTh

Mae comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu hethol i ddwyn eich heddlu i gyfrif am gyflawni’r math o blismona rydych am ei weld. Eu nod yw torri troseddu a sicrhau bod eich heddlu’n effeithiol. Mae CHTh yn dod â llais cyhoeddus i blismona ac maent yn gwneud hyn trwy:

  • Ymgysylltu â’r cyhoedd a dioddefwyr troseddau i helpu i osod cynlluniau heddlu a throseddu;
  • Sicrhau bod cyllideb yr heddlu yn cael ei gwario lle mae o’r pwys mwyaf; a
  • Penodi, a lle bydd angen, diswyddo’r prif gwnstabl.

CHTTh

Ar hyn o bryd mae pedwar Comisiynydd Heddlu, Tân a Throseddu (CHTTh) yn Essex, Swydd Stafford, Gogledd Swydd Efrog a Swydd Northampton. Mae CHTTh hefyd yn cael eu hethol gennych chi ac yn ogystal â dwyn yr heddlu i gyfrif, maent hefyd yn craffu ar y gwasanaeth tân ac achub trwy:

  • Gosod yr amcanion tân ac achub ar gyfer eu hardal trwy gynllun tân ac achub;
  • Sicrhau bod cyllidebau’r gwasanaeth tân ac achub yn cael eu gwario lle maent o’r pwys mwyaf; a
  • Penodi’r Prif Swyddog Tân, eu dwyn i gyfrif am gyflawni eu hamcanion ac, os oes angen, eu diswyddo.

Meiri

Mae tair ardal heddlu lle bydd pobl, ar 6ed Mai 2021, yn ethol Maer a fydd yn arfer swyddogaethau CHTh, yn lle ethol CHTh – y Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd, Manceinion Fwyaf, a Gorllewin Swydd Efrog. Mae’r pwerau a’r swyddogaethau y mae’r Meiri hyn yn eu harfer mewn perthynas â phlismona yr un fath â mewn ardaloedd heddlu lle mae CHTh yn cael eu hethol, ac mae’r Maer yn y tair ardal heddlu hyn yn atebol i’r cyhoedd yn y blwch pleidleisio yn yr un modd ag y mae CHTh mewn ardaloedd heddlu eraill.

Gweithio gydag eraill

Mae CHTh, CHTTh ddiogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol.

Nid yw’r CHTh, CHTTh na’r Maer sydd â swyddogaethau CHTh yn “rhedeg” yr heddlu na’r gwasanaeth tân. Mae Prif Gwnstabliaid a Phrif Swyddogion Tân yn parhau i fod yn gyfrifol am weithrediadau’r heddlu a gwasanaethau tân o ddydd i ddydd, ond maent yn atebol i’r cyhoedd trwy’r Comisiynydd

Mae CHTh, CHTTh a Meiri sy’n arfer swyddogaethau CHTh yn unigolion sengl, wedi’u hethol yn uniongyrchol, gan sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i gydweithredu a chraffu mwy effeithiol ar wasanaethau cyhoeddus.

Maent hefyd yn sicrhau bod cyfraniad plismona effeithiol i drefniadau partneriaeth genedlaethol i amddiffyn y cyhoedd rhag bygythiadau trawsffiniol eraill.

Cynrychioli’r gymuned gyfan

Mae’n ofynnol i CHTh, CHTTh a Meiri sy’n arfer swyddogaethau CHTh dyngu llw pan gânt eu hethol i’w swydd. Cynlluniwyd y llw fel y gallant nodi’n gyhoeddus eu hymrwymiad i: wasanaethu’r holl bobl yn ardal eu heddlu; gweithredu â gonestrwydd a diwydrwydd; rhoi llais i’r cyhoedd; gweithredu â thryloywder fel y gellir eu dwyn i gyfrif yn effeithiol; a pheidio ag ymyrryd ag annibyniaeth weithredol swyddogion heddlu. Mae Maer Llundain yn tyngu llw i gyflawni dyletswyddau’r swydd hyd eithaf eu barn a’u gallu.