Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Drwy ddefnyddio’r wefan hon neu gau’r neges hon, rydych yn cytuno â’n polisi cwcis

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Comisiynwyr Heddlu a Throseddu;

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu eu hethol gan yr heddlu i sicrhau bod anghenion plismona cymunedau yn cael eu bodloni mor effeithiol â phosibl ac i oruchwylio sut y delir â throseddu yn ardal eich heddlu chi.

Mae etholiadau ar gyfer comisiynwyr heddlu a throseddu (PCCs) yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2016 ledled Cymru a Lloegr, ac eithrio Llundain a Manceinion Fwyaf.

Am wybodaeth am ymgeiswyr yn eich ardal chi defnyddiwch y blwch chwilio isod. Gallwch lawrlwytho llyfryn i’w argraffu hefyd os y mynnwch, sydd â gwybodaeth am yr ymgeiswyr.

Os byddai’n well gennych chi gael y llyfryn drwy’r post yna cwblhewch ffurflen archebu ar-lein.

Neu gallwch archebu drwy ffonio 0800 1070708.

Gwybodaeth am Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu (PCCs) eu hethol gennych chi i oruchwylio sut y delir â throsedd yn ardal eich heddlu chi. Nod y comisiynwyr yw lleihau trosedd ac i sicrhau bod eich heddlu chi yn effeithiol

Rhagor o wybodaeth am PCCs

Eich ardal chi

I gael gwybodaeth am droseddau lleol, plismona a chyfiawnder troseddol ar gyfer Cymru a Lloegr, yn cynnwys troseddau ar y strydoedd a chanlyniadau ar ffurf mapiau a manylion am eich tîm plismona lleol a chyfarfodydd rhawdiau, ewch i www.police.uk.

Sut i bleidleisio

Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio, a’ch bod yn gymwys i wneud hynny, gallwch un ai bleidleisio’n bersonol mewn gorsaf bleidleisio, drwy’r post, neu drwy ddull procsi (caniatáu i rywun arall bleidleisio ar eich rhan).

Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio gallwch ymgeisio yma.

Yn yr etholiad hwn gallwch bleidleisio am ddewis cyntaf ac ail ddewis i ennill.

Rhagor o wybodaeth ar sut i bleidleisio yn yr etholiadau PCC ac etholiadau eraill sy’n digwydd yn eich ardal chi ar 5 Mai.